Revised Common Lectionary (Complementary)
11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw. 12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso. 13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear. 14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt. 15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd. 16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf. 17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau. 18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau. 19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant. 20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.
13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi: 14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn: 15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw. 16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef. 17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid. 18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
31 A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32 A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35 Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36 Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37 Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38 A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39 A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40 A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43 Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44 Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45 Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46 A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.