Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:73-80

73 Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. 74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. 75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. 76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. 77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. 78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. 79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. 80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.

CAFF

Josua 23

23 A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau. A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus: Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch. Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin. A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych. Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy; Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt: Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn. 10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych. 11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw. 12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau: 13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt. 15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 16 Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

Luc 10:13-16

13 Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. 14 Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15 A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern. 16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.