Revised Common Lectionary (Complementary)
73 Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. 74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. 75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. 76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. 77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. 78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. 79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. 80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.CAFF
4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel? 5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd. 6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr. 7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd. 8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion. 9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt? 10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster. 11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch. 12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.
13 Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
28 A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 29 A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul. 30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny. 40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.