Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 66:1-9

I’r Pencerdd, Can neu Salm.

66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.

Jeremeia 51:47-58

47 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. 48 Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd. 49 Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. 50 Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi. 51 Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd. 52 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â’i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan. 53 Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd. 54 Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. 55 Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt. 56 Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr. 57 A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 58 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.

2 Corinthiaid 8:1-7

Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.