Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Can neu Salm.
66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: 2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. 3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. 4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. 5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. 6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. 7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. 8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: 9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.
21 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. 3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. 4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw. 5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd. 6 Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 7 Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd: 8 Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt. 9 Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.
10 A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd, 11 Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod: 12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant. 13 A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb. 14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion: 15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn.
14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.