Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
140 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: 2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. 3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. 4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. 5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. 6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau. 7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. 8 Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. 9 Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. 10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. 11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. 12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. 13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab. 39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i. 40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad. 41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
50 Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da. 51 Wele Rebeca o’th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd. 52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd. 53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam. 54 A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr. 55 Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned. 56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr. 57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi. 58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda’r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af. 59 A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion; 60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61 Yna y cododd Rebeca, a’i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith. 62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau. 63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod. 64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel. 65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd. 66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe. 67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.
7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad. 8 Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu. 9 Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. 10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo. 11 Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.