Revised Common Lectionary (Complementary)
65 Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i. 2 Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun; 3 Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini; 4 Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri; 5 Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd. 6 Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes, 7 Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr Arglwydd, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a’m cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll. 9 Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno.
19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea. 27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau. 28 Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech. 29 (Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.) 30 A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef. 31 A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder. 32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt. 33 A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd. 34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad. 35 A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant. 36 A’r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37 A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd. 38 A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd, 39 Dychwel i’th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.