Revised Common Lectionary (Complementary)
19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
59 Wele, ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed: 2 Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw, a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo. 3 Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a’ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd. 4 Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd. 5 Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber. 6 Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. 7 Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt. 8 Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.
27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. 28 Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 29 Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. 30 A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. 31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel. 34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.