Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 22:19-28

19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.

Eseia 56:9-12

Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. 10 Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian. 11 Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o’i gwr. 12 Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.

Rhufeiniaid 2:17-29

17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.