Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
124 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr; 2 Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn: 3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn: 4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid: 5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt. 7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom. 8 Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
7 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. 2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. 3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. 4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:
7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. 8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. 9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? 10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) 11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; 12 I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: 13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: 14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: 15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: 16 O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.