Revised Common Lectionary (Complementary)
8 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? 2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. 3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: 4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
22 Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. 23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. 24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. 25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: 26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. 27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: 28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: 29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: 30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; 31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
5 Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: 2 Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. 3 Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; 4 A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: 5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni.
12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.