Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
19 Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. 20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. 22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. 23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. 24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys. 25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo. 26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
4 Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, 2 Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; 3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. 4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; 5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, 6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.