Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 48

Cân a Salm i feibion Cora.

48 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. 10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. 11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. 12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. 13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. 14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.

Eseciel 11:14-25

14 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 15 Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth. 16 Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant. 17 Dywed gan hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o’r gwledydd y’ch gwasgarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dir Israel. 18 A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a’i holl ffieidd‐dra allan ohoni hi. 19 A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o’u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig: 20 Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw iddynt hwy. 21 Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a’u ffeidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr Arglwydd Dduw.

22 Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a’r olwynion yn eu hymyl, a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd. 23 A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o’r tu dwyrain i’r ddinas.

24 Yna yr ysbryd a’m cododd i, ac a’m dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. A’r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf. 25 Yna y lleferais wrth y rhai o’r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a ddangosasai efe i mi.

1 Corinthiaid 2:12-16

12 A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. 13 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. 14 Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. 15 Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. 16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.