Revised Common Lectionary (Complementary)
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
11 A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd. 2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. 3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. 4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. 5 A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. 6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. 7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. 8 Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
14 Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15 Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 16 Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17 Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd.
2 Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. 2 Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. 3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt. 4 A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. 5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef. 6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sydd yn llefaru? 8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y’n ganed ni? 9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia, 10 Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid, 11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw. 12 A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod? 13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14 Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau: 15 Canys nid yw’r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o’r dydd yw hi. 16 Eithr hyn yw’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd Joel; 17 A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd ar bob cnawd: a’ch meibion chwi a’ch merched a broffwydant, a’ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a’ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion: 18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant: 19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg. 20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod. 21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 9 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.
15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 17 Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.
25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. 26 Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. 27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.