Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
12 Yna yr ysbryd a’m cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le. 13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr. 14 A’r ysbryd a’m cyfododd, ac a’m cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.
15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt. 16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17 Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. 18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. 19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid. 20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di. 21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o’r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.
18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i? 19 Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd. 20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw. 21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb; 22 Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd atgyfodi.
23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. 24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi. 25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli? 26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd. 27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.