Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
16 Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.
17 Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl. 18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; 19 Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
20 Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. 21 Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen. 23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
24 Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau. 25 Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. 27 Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
28 Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. 29 Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. 31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed. 32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
34 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl. 35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl. 36 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau. 37 Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. 38 Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.
35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny. 36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch. 37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, hwy a’n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. 38 A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt. 39 A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a’u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas. 40 Ac wedi myned allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a’u cysurasant, ac a ymadawsant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.