Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
39 Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau, ac â’ch eilunod. 40 Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o’r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda’ch holl sanctaidd bethau. 41 Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd. 42 Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau. 43 Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch. 44 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
6 Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl. 2 Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. 3 A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 4 Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr. 5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law. 6 Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt. 7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. 8 Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear. 9 A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt. 10 A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? 11 A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau. 12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed; 13 A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr. 14 A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd. 15 A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; 16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: 17 Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?
7 Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren. 2 Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr, 3 Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau. 4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.