Revised Common Lectionary (Complementary)
118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda. 17 A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda. 18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt: 19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi. 20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog. 21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel. 22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof. 23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon. 24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt. 25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn. 26 Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr. 27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.
6 Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? 7 Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: 8 Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.