Revised Common Lectionary (Complementary)
16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; 17 Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.
18 Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. 19 Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. 20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. 21 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
4 Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: 5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead; 6 Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd. 7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. 8 Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, 9 Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: 10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; 11 Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw: 12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu. 13 Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, 14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
12 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 2 Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. 3 Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 4 Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, 5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 7 A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 8 Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.