Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd, er coffa.
38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. 2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. 3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. 4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. 5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. 6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. 7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. 9 O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.
33 A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn. 2 Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a’u plant hwy, a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf. 3 Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd. 4 Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant. 5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu’r gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di. 6 Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a’u plant, ac a ymgrymasant. 7 A Lea a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant. 8 Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd. 9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt. 10 A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn fodlon i mi. 11 Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd; 12 Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o’th flaen di. 13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna’r holl braidd. 14 Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo’r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir. 15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir. 17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi. 3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. 4 Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. 5 Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio. 6 Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. 7 Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr. 8 Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr. 9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr. 10 Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11 Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd. 12 Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw. 13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth? 14 Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo? 15 Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi. 16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.