Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 120

Caniad y graddau.

120 Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i. Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus. Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus? Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw. Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar. Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd. Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.

Jeremeia 22:11-17

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach. 12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.

13 Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: 14 Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion. 15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? 16 Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd, 17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.

Luc 11:37-52

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta. 38 A’r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio. 39 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. 40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? 41 Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi. 42 Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur. 43 Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd. 44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45 Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd. 46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd. 47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt. 48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt‐hwy yn wir a’u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt. 49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant: 50 Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd; 51 O waed Abel hyd waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i’r genhedlaeth hon. 52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.