Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 17:5-10

Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol. Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo. Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.

Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? 10 Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.

Salmau 1

Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith. Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn. Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

1 Corinthiaid 15:12-20

12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? 13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: 14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. 15 Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. 16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. 17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. 18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. 19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.

Luc 6:17-26

17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.

20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. 21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. 22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. 23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi. 24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch. 25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.