Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 115

115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Eseia 8:1-15

A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas. A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia. A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas. Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.

A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia: Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.

Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir. 10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.

11 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, 12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. 13 Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi: 14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem. 15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.

Luc 5:27-32

27 Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef. 29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd. 30 Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid? 31 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion. 32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.