Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 115

115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

1 Samuel 9:15-10:1

15 A’r Arglwydd a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd. 16 Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. 17 A phan ganfu Samuel Saul, yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl. 18 Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae tŷ y gweledydd. 19 A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon. 20 Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad? 21 A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn? 22 A Samuel a gymerth Saul a’i lanc, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain. 23 A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi. 24 A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn oedd arni, ac a’i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.

25 A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ. 26 A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan. 27 Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

10 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?

1 Timotheus 3:1-9

Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.