Revised Common Lectionary (Complementary)
6 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. 2 Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. 3 A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. 4 A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
5 Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd. 6 Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel: 7 Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. 8 Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.
9 Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch. 10 Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. 11 Yna y dywedais, Pa hyd, Arglwydd? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd, 12 Ac i’r Arglwydd bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.
13 Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.
Salm Dafydd.
138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. 2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. 3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. 4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. 5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. 6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. 7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. 8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
15 Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; 2 Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. 3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; 4 A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; 5 A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. 6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. 7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. 8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. 9 Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. 10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. 11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
5 Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; 2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. 3 Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. 4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. 5 A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. 6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. 7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. 8 A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. 9 Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; 10 A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. 11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.