Revised Common Lectionary (Complementary)
71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. 2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. 3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. 4 Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. 5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. 6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
11 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd. 13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel.
14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem. 15 Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod. 16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd. 17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef. 18 Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau y brenin a’i dywysogion: y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon. 19 A hwy a losgasant dŷ Dduw, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy â than, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant. 20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid: 21 I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 44 A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. 45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff. 46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. 47 Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. 48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. 49 Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. 50 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn. 51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.