Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Nehemeia 8:1-3

A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel. Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis. Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.

Nehemeia 8:5-6

Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant. Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr Arglwydd â’u hwynebau tua’r ddaear.

Nehemeia 8:8-10

A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Dduw: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen.

A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i’r Arglwydd eich Duw; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith. 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi.

Salmau 19

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.

1 Corinthiaid 12:12-31

12 Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd. 13 Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd. 14 Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. 15 Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw efe o’r corff? 16 Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff; ai am hynny nid yw hi o’r corff? 17 Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r clywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad? 18 Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe. 19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff? 20 Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff. 21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. 22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol: 23 A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch. 24 Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol: 25 Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd. 26 A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau. 27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran. 28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau. 29 Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb? 30 A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu? 31 Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.

Luc 4:14-21

14 A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch. 15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. 17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, 19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. 20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.