Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 145

Salm Dafydd o foliant.

145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.

Caniad Solomon 4:9-5:1

Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf. 10 Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau! 11 Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus. 12 Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw. 13 Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus; 14 Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau: 15 Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.

16 Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasgarer ei pheraroglau: deued fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.

Deuthum i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogl, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.

Luc 5:33-39

33 A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed? 34 Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? 35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen. 37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir. 38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir. 39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.