Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd o foliant.
145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. 2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. 3 Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. 4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. 5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. 6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. 7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. 8 Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. 9 Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
4 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead. 2 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil. 3 Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. 4 Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn. 5 Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili. 6 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. 7 Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.
8 Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.
3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: 7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: 8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. 10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. 11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi. 12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist. 13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi? 14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius; 15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun. 16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall. 17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.