Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 36:5-10

Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon.

Jeremeia 3:19-25

19 Ond mi a ddywedais, Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.

20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd. 21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw. 22 Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw. 23 Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni. 24 Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched. 25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw.

1 Corinthiaid 7:1-7

Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig. Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr. Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig. Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn. Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.