Revised Common Lectionary (Complementary)
5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon.
3 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd. 2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â’th buteindra, ac â’th ddrygioni. 3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio. 4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid? 5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, 19 Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. 20 Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. 21 Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. 22 Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. 23 Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. 24 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.