Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 106:1-12

106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch. Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch. 10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn. 11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt. 12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

Numeri 27:1-11

27 Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;) Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd, Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo. Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad. A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad. Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch. Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr. 10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad. 11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Luc 11:33-36

33 Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. 34 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll. 35 Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. 36 Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.