Revised Common Lectionary (Complementary)
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom. 7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch. 8 Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid. 9 Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch. 10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn. 11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt. 12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.
12 Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam. 13 Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn. 14 O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon. 15 A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon. 16 Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon. 17 Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau. 18 Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes. 19 A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian. 20 O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera. 21 Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.
13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. 14 A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. 15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo. 16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono. 17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth. 18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef. 19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. 20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. 21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.