Revised Common Lectionary (Complementary)
43 Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. 2 Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. 3 Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat. 4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. 5 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. 6 Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; 7 Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
14 A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: 15 Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. 16 (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) 17 Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân.
15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist; 16 Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
21 A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef, 22 A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.