Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
2 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd. 2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna? 3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd. 4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd: 5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: 6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed: 7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: 8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion. 9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi. 10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur. 11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.
2 A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. 2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. 3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. 4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: 5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw. 6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. 7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: 8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. 9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.