Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm i Solomon.
72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. 2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. 3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. 4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. 5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. 6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. 7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. 8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. 9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel. 8 Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. 9 Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.
10 Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a’i casgl ef, ac a’i ceidw fel bugail ei braidd. 11 Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef. 12 Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach. 13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch. 14 A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr Arglwydd.
1 Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2 Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. 3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. 4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. 5 A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. 7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. 14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.