Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 72

Salm i Solomon.

72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.

Eseia 6:1-5

Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml. Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.

Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd.

Actau 7:44-53

44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. 45 Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; 46 Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. 47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. 48 Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, 49 Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? 50 Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?

51 Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. 52 Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: 53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.