Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm i Solomon.
72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. 2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. 3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. 4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. 5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. 6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. 7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. 8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. 9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
10 Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg. 11 Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur. 12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod. 13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched. 14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc. 15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr. 16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth. 17 Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.
16 Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni. 17 Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau. 18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19 Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf. 20 A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled. 21 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.