Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw. 13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn. 14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith. 15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan. 16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw. 17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef? 18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant. 19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel. 20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; 2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; 3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; 4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. 5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: 6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
7 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.