Revised Common Lectionary (Complementary)
11 Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. 2 Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd; 3 Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. 4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. 5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau. 6 A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. 7 Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt. 8 A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. 9 Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.
20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 21 Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt ar unwaith. 22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa
23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd. 24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram. 25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef. 26 Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt. 27 Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll. 28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt. 29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i. 30 Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31 A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy. 32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth. 33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa. 34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau. 35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr. 24 A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant. 25 Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni, 26 Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch: 27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt. 28 Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd; a hwy a wrandawant. 29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith. 30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato, 31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.