Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Seffaneia 3:14-20

14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. 15 Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. 16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. 17 Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. 18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich. 19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. 20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr Arglwydd.

Eseia 12:2-6

Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. Cenwch i’r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.

Philipiaid 4:4-7

Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

Luc 3:7-18

Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân. 10 A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni? 11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd. 12 A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni? 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi. 14 A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau. 15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist; 16 Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. 18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.