Revised Common Lectionary (Complementary)
2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. 3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. 4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. 5 Cenwch i’r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. 6 Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.
8 Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd. 9 Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr. 10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.
11 Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: 12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn. 13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant. 14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. 15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr Arglwydd dy Dduw.
57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. 59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. 66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.