Revised Common Lectionary (Complementary)
2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. 3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. 4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. 5 Cenwch i’r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. 6 Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.
4 Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, 5 Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? 6 I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? 7 Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. 8 Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. 9 A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. 10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.
11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd. 12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt.
9 Canys tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch: 2 Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn. 3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi: 4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma. 5 Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra. 6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth. 7 Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. 8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: 9 (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. 10 A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;) 11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. 12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; 13 Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; 14 A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch. 15 Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.