Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 126

Caniad y graddau.

126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Eseia 35:3-7

Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.

Luc 7:18-30

18 A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.

19 Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20 A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21 A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl. 23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.

24 Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt? 25 Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26 Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd. 27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 28 Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef. 29 A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30 Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.