Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un. 19 Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi. 20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt. 21 A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac a’i talant. 22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.
23 A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant. 24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: 25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.
2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, 3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: 4 Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. 5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; 6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; 7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. 8 Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12 Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13 Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14 Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15 Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.