Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
40 Cysurwch, cysurwch fy mhobl, medd eich Duw. 2 Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
3 Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch. 4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd. 5 A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn. 6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes. 7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl. 8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
9 Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi. 10 Wele, yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a’i waith o’i flaen. 11 Fel bugail y portha efe ei braidd; â’i fraich y casgl ei ŵyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.
22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.