Revised Common Lectionary (Complementary)
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
13 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i’m herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di? 14 Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd? 15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant Dduw, a waredwyd.
16 Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 17 A byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef.
18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. 19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, 20 Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. 21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23 Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. 24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.