Revised Common Lectionary (Complementary)
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
5 A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a’r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd. 6 Canys myfi yr Arglwydd ni’m newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.
7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?
8 A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a’m hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y’th ysbeiliasom? Yn y degwm a’r offrwm. 9 Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a’m hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon. 10 Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i’w derbyn. 11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd. 12 A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.
12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; 14 Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn. 15 Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. 16 Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: 17 A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. 18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.