Revised Common Lectionary (Complementary)
Gweddi Moses gŵr Duw.
90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. 2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. 4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. 5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. 6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. 7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. 8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. 9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. 12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.
24 Am hynny medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn Dduw Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
25 A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam. 26 Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon. 27 Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.
28 A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r Arglwydd, a ddifethir. 29 Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch. 30 Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi. 31 A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.
29 Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd: 30 Canys fel y bu Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. 31 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma. 32 Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.