Revised Common Lectionary (Complementary)
Gweddi Moses gŵr Duw.
90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. 2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. 4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. 5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. 6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. 7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. 8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. 9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. 12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, yn ôl tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u penaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddeg gwialen: ysgrifenna enw pob un ar ei wialen. 3 Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi: canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau. 4 A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi. 5 A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.
6 A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt. 7 A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth. 8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddyg asai almonau. 9 A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.
10 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw. 11 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.
3 Yr ail epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gof i chwi: 2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr: 3 Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. 4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. 5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr. 6 Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. 7 Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. 8 Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. 9 Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. 11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? 13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. 14 Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. 15 A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; 16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. 17 Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. 18 Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.